top of page
WCP_MG_0042-2.jpg

Taith gerdded i bawb

Mae tri Llwybr Cenedlaethol Cymru ynghyd â Llwybr Arfordir Cymru y cynnig ystod eang o deithiau cerdded i gerddwyr o bob gallu. Dyma’r atyniadau mawr i’ch ymwelwyr a thrwy ddefnyddio grym denu’r Llwybrau hyn gallwch gyrraedd sylfaen o gwsmeriaid ehangach a mwy amrywiol.

 

O deithiau cerdded ar hyd clogwyni a thraethau diarffordd i archwilio trefi marchnata a phentrefi, mae’r llwybrau yn cynnig dewis heb ei ail i ymwelwyr. Er mwyn mwynhau’r llwybrau, nid oes yn rhaid i’ch ymwelwyr fod yn gerddwyr selog gan fod rhannau byr hawdd ar gyfer teithiau cyflym a hawdd ynghyd â heiciau pellach a mwy heriol.

 

Mae gwefan Llwybr Arfordir Cymru yn dangos rhannau o’r llwybr sy’n hygyrch i bawb, ac ychwanegir ati wrth i fwy o gyfleoedd gael eu nodi. Ewch i Lwybr Arfordir Cymru / Teithiau Hygyrch

 

Mae 177 milltir o Lwybr Clawdd Offa yn cymryd tua 12 diwrnod i gerddwyr cyffredin ei gwblhau. Mae Lonely Planet yn enwi Clawdd Offa ymhlith teithiau cerdded gorau’r byd. Cliciwch ar y ddolen i weld gwybodaeth ddefnyddiol y gallwch ei defnyddio yn eich gweithgareddau hyrwyddo i ddenu sylw eich cwsmeriaid ac ymwelwyr.

Yn yr un modd mae Llwybr Glyndŵr yn mynd â'ch ymwelwyr oddi ar y llwybr arferol. Gan fod ei lwybr naw diwrnod yn ymweld â llawer o’r safleoedd sy’n gysylltiedig â gorffennol hanesyddol Cymru – trefi fel y Trallwng, Trefyclo a Machynlleth – bydd rhoi cyhoeddusrwydd i’r daith gerdded yn apelio at yr ymwelwyr hynny sydd am gymysgu cefn gwlad godidog gydag ychydig o fywyd trefol.

 

Mae 186 milltir o Lwybr Arfordir Penfro yn pasio 58 traeth a 14 harbwr, ac yn olrhain pob clogwyn a childraeth rhwng Llandudoch a Llanrhath. Fel rhan o 870 milltir Llwybr Arfordir Cymru, mae'n cynnig adnodd marchnata rhagorol i chi ei hyrwyddo i'ch ymwelwyr. Trwy gysylltu â Llwybr yr Arfordir a'r Llwybrau Cenedlaethol gallwch wahaniaethu rhwng yr hyn y mae eich busnes yn ei gynnig a'r hyn a gynigir gan gystadleuwyr nad ydynt mewn lleoliad mor ffodus.

 

Yn 2021 enwodd cylchgrawn National Geographic Sir Benfro yn ail gyrchfan arfordirol gorau yn y byd. Y flwyddyn cyn hynny fe enwodd Lwybr Arfordir Sir Benfro yn ail ymhlith 10 llwybr hir gorau'r byd. Pleidleisiodd Lonely Planet dros arfordir Cymru a thynnu sylw at Lwybr Arfordir Cymru fel un o’r deg rhanbarth arfordirol gorau yn y byd yn ei restr Deg Uchaf Best in Travel 2012.

 

Edrychwch ar y gwefannau hyn sy’n cynnwys Llwybrau Cymru. Yma bydd cyfoeth o ffeithiau a ffigurau a gwybodaeth am weithgareddau yn eich ardal:

 

bottom of page