top of page
train.JPG

Gadewch i'r trên gymryd rhywfaint o'r straen

Mae gan Drafnidiaeth Cymru ymgyrch yn y gwanwyn - O’r Rheilffordd I’r Llwybr - gyda’r nod o annog pobl i ddefnyddio’r trên i gael mynediad at Lwybr Arfordir Cymru.

 

Mae'n ffordd wych i ymwelwyr gyrraedd y Llwybr a gallwch ddarganfod mwy yn TFW/Path. Yma cewch fanylion am y gorsafoedd y gellir eu defnyddio fel porth i Lwybr Arfordir Cymru. Defnyddiwch y wybodaeth hon ar eich gwefan i ddangos i'ch ymwelwyr pa mor hygyrch yw'r llwybrau.

 

Gallwch hefyd fynd i wefan Llwybr Arfordir Cymru a defnyddio'r map rhyngweithiol i ddarganfod lle gall eich ymwelwyr ddechrau a gorffen eu taith.

 

Dylech hefyd edrych ar flogiau Llwybr Arfordir Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd ar hyd y llwybr. Mae rhoi cyhoeddusrwydd i’r amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ffordd wych o annog mwy o ymwelwyr. Ewch i Llwybr Arfordir Cymru / Blogiau i ddod o hyd i'r newyddion diweddaraf.      

 

bottom of page