top of page

Cymerwch ran – tynnwch lun

Mae prosiect sydd â’r nod o olrhain sut mae arfordir Cymru’n newid dros amser oherwydd ffenomenau naturiol fel stormydd a lefelau’r môr yn codi yn ogystal ag effaith gweithgarwch dynol, yn cael ei lansio’r gwanwyn hwn.

 

Mae Coast Snap yn brosiect gwyddoniaeth dinasyddion – lle mae aelodau’r cyhoedd yn casglu data am y byd naturiol. Ei nod yw annog y cyhoedd i dynnu lluniau o arfordir Cymru o safleoedd penodol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Bydd gan bob safle grud arbennig i ddal ffôn symudol, er mwyn sicrhau bod lluniau i gyd yn cael eu tynnu o'r un ongl.

 

Mae techneg arbenigol yn troi lluniau yn ddata arfordirol gwerthfawr a ddefnyddir gan wyddonwyr arfordirol i ddeall a dysgu sut y gallai arfordiroedd newid yn y degawdau nesaf. Bydd y data yn helpu i lywio penderfyniadau rheoli llifogydd ac erydu arfordirol.

 

Mae'r strwythurau yn y delweddau yn cael eu geo-gywiro, sy'n galluogi i leoliad newidiol yr arfordir gael ei fesur, o'r cipluniau a gyflwynir gan y cyhoedd, i gywirdeb tebyg i gywirdeb timau arolygu arfordirol proffesiynol.

 

Mae hwn yn brosiect gwych i'w hyrwyddo i'ch cwsmeriaid ac ymwelwyr. Gallant fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn trwy dynnu llun o un o'r crud ffotograffiaeth sefydlog.   Bydd yn cael ei ychwanegu at yr holl ddelweddau eraill a rennir i greu ffilm treigl amser i ddangos y newidiadau arfordirol. Gellir gweld uwchlwythiadau lluniau a chanlyniadau yn: https://cy.wcmc.wales/coastsnap

www.wcmc.wales/coastsnap

 

Y safleoedd a ddewiswyd ar gyfer y prosiect Coast Snap yw: Black Rock, Allteuryn, Ffordd Lamby, Penarth, Porthcawl, Port Talbot, Bae Langland, Pentywyn, Dinbych-y-pysgod (dau safle), Aberaeron, Criccieth (dau safle), Biwmares, Llandudno, y Rhyl, a Thalacre.

image001.jpg
bottom of page