top of page
MVW-E25-2223-0105.JPG

Ewch ati i hyrwyddo ym mis Mai

Mae Mai 2023 yn Fis Cerdded Cenedlaethol – cyfle gwych i hyrwyddo teithiau cerdded ar hyd llwybrau Cymru i’ch ymwelwyr.

 

Mae’r Mis Cerdded Cenedlaethol yn rhoi cyfle perffaith i chi hyrwyddo’ch busnes a chysylltu â digwyddiadau niferus a fydd yn cael eu cynnal trwy gydol mis Mai.

 

Mae cerdded yn ffordd hawdd i wella iechyd corfforol a meddyliol ac ar yr un pryd yn gostwng allyriadau carbon trwy gyfnewid taith fer yn y car am daith gerdded fer.

 

Mae sawl ffordd o ddefnyddio’r mis i hyrwyddo’ch busnes trwy hyrwyddo’r teithiau cerdded niferus sydd gan Lwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru. Mae llawer o’r rhain yn deithiau cylchol - ffordd berffaith o gael ychydig o ymarfer corff heb ei gor-wneud hi.

 

Mae elusennau niferus hefyd yn cysylltu â’r Mis Cerdded Cenedlaethol – gan roi’r cyfle i chi hyrwyddo codi arian dros achos teilwng ochr yn ochr â’ch cwsmeriaid yn gwneud ychydig o ymarfer corff.

 

Chwiliwch ar-lein am Fis Cerdded Cenedlaethol neu ewch i un o’r safleoedd hyn am ragor o syniadau.

 

Llwybr Arfordir Cymru/Teithiau Cerdded

Croeso Cymru/Teithiau Cerdded

Cyfoeth Naturiol Cymru/Teithiau Cerdded

 

bottom of page