Cylchlythyr
2023
Newsletter
Ffyrdd gwych o gynnig
mwy i gerddwyr
Felly, beth allwch chi ei gynnig i ymwelwyr a fydd yn apelio i gerddwyr y Llwybrau?
Edrychwch ar y syniadau hyn i weld beth y gallech chi ei gynnig i wneud eich busnes yn fwy deniadol.
-
Casglu o safleoedd bws a thrên
-
Casglu bagiau
-
Cynnig amserlenni bws a thrên
-
Cynnig cyfleuster sychu dillad
-
Os oes gennych chi bwyntiau gwefru ceir neu fynediad at rai gerllaw, cofiwch eu hyrwyddo
-
Sicrhau bod gwybodaeth ar gael am siopau lleol sy’n gwerthu offer cerdded
-
Rhoi manylion cyswllt, ar gyfer busnesau lleol defnyddiol, megis tacsis, llogi beiciau, llogi ceir ac ati
-
Darparu mapiau a theithiau cerdded, y gellir eu lawrlwytho o’ch gwefan
-
Beth am gynigion i aros am un noson
-
Cyflenwi pecynnau bwyd
-
Cynnig diod am ddim gyda byrbryd i gerddwyr sy’n dychwelyd o deithiau cerdded
-
Darparu te, coffi a dŵr yfed er mwyn ail-lenwi fflasgiau
-
Cynnig gwybodaeth leol – y teithiau cerdded arfordirol gorau, lleoedd gwych i fynd am ddiod/bwyd
-
Buddsoddi mewn ymbaréls wedi’u brandio ar gyfer cerddwyr achlysurol sy’n cael eu dal allan gan dywydd Cymru
-
Benthyca ffyn cerdded
-
Darparu lle parcio beiciau diogel
-
Cyflenwi gwybodaeth ddiogelwch gan gynnwys amserlenni llanw’r môr
-
Diodydd a byrbrydau am ddim i gŵn
-
Sicrhau bod bagiau baw ci ar gael
-
Cynllunio'ch YmweliadCreu dolen gwefan at Lwybr Arfordir Cymru ar gyfer mapiau rhyngweithiol a theithlyfrau. Ewch i
-
Ewch i dudalen Twristiaeth Gynaliadwy Busnes Cymru i ddarganfod awgrymiadau ar ddod yn wyrddach
-
Edrychwch ar wefan Croeso Cymru am ragor o syniadau a chyngor am ddim Croeso i Gerddwyr