top of page
SVW-C11-1314-0349.jpg

Llyfrgell o ddelweddau am

ddim i'ch busnes

Mae llyfrgell asedau Croeso Cymru yn rhoi mynediad i chi i gannoedd o ddelweddau o Gymru. Dylech ddefnyddio ffotograffau o ansawdd da i ddarlunio’ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau. Mae’r llyfrgell yn cynnwys dolenni at gasgliad enfawr o ffotograffau sy’n rhad ac am ddim – lluniau trawiadol o Lwybr Arfordir Cymru a’r ardaloedd cyfagos yn ogystal â Llwybrau Cenedlaethol Cymru.

 

Felly, gwnewch ddefnydd ohono - dangoswch i'ch cwsmeriaid fod eich busnes wedi'i leoli ger arfordir syfrdanol neu'n swatio mewn cefn gwlad godidog. 

 

Gallwch ddefnyddio'r delweddau:

  • Ar eich gwefan, mewn pamffledi neu drwy gyfryngau cymdeithasol fel Twitter ac Instagram

  • I ddarlunio porwyr gwesty a gwely a brecwast

  • I wneud y wybodaeth rydych chi'n ei hanfon at gwsmeriaid yn fwy diddorol

 

Mae'r llyfrgell hefyd yn rhoi mynediad i chi i frandiau a logos allweddol Croeso Cymru.

 

Ewch i Ased Cymru i weld y delweddau ac asedau marchnata eraill.

 

Gallwch hefyd roi dolen ar eich gwefan eich hun i sianel You Tube Llwybr Arfordir Cymru, lle gwelwch chi nifer o fideos yn Gymraeg a Saesneg yn canmol rhinweddau'r Llwybr. Ewch i WCP/fideo

bottom of page