Cylchlythyr
2023
Newsletter
Llyfrgell o ddelweddau am
ddim i'ch busnes
Mae llyfrgell asedau Croeso Cymru yn rhoi mynediad i chi i gannoedd o ddelweddau o Gymru. Dylech ddefnyddio ffotograffau o ansawdd da i ddarlunio’ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau. Mae’r llyfrgell yn cynnwys dolenni at gasgliad enfawr o ffotograffau sy’n rhad ac am ddim – lluniau trawiadol o Lwybr Arfordir Cymru a’r ardaloedd cyfagos yn ogystal â Llwybrau Cenedlaethol Cymru.
Felly, gwnewch ddefnydd ohono - dangoswch i'ch cwsmeriaid fod eich busnes wedi'i leoli ger arfordir syfrdanol neu'n swatio mewn cefn gwlad godidog.
Gallwch ddefnyddio'r delweddau:
-
Ar eich gwefan, mewn pamffledi neu drwy gyfryngau cymdeithasol fel Twitter ac Instagram
-
I ddarlunio porwyr gwesty a gwely a brecwast
-
I wneud y wybodaeth rydych chi'n ei hanfon at gwsmeriaid yn fwy diddorol
Mae'r llyfrgell hefyd yn rhoi mynediad i chi i frandiau a logos allweddol Croeso Cymru.
Ewch i Ased Cymru i weld y delweddau ac asedau marchnata eraill.
Gallwch hefyd roi dolen ar eich gwefan eich hun i sianel You Tube Llwybr Arfordir Cymru, lle gwelwch chi nifer o fideos yn Gymraeg a Saesneg yn canmol rhinweddau'r Llwybr. Ewch i WCP/fideo